Amdanom ni

Partneriaeth unigryw a blaengar yw Adeiladu Sir Gâr Gyda'n Gilydd sy'n cydweithio i greu cyfleoedd i bobl, busnesau a chymunedau, gan wneud y defnydd gorau o fuddsoddiad ac adnoddau a rennir er mwyn creu etifeddiaeth gynaliadwy a pharhaol i'r cenedlaethau sydd i ddod.

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr a Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL).

Gyda'i chysylltiadau cryf â diwydiant lleol, cyrff gwasanaethau allweddol ac asiantaethau annibynnol eraill, y bartneriaeth hon sydd wrth wraidd amryw o gynlluniau sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cydweithio i greu cyfleoedd cyffrous i bobl, busnesau a chymunedau - llawer ohonynt y gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt ar y tudalennau gwe hyn.

Mae ein datganiad cenhadaeth yn un syml:

“Trwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, byddwn yn creu amgylchedd blaengar a chefnogol er mwyn datblygu a grymuso gweithlu'r dyfodol. Byddwn yn creu cyfleoedd i bawb, a bydd gennym ymrwymiad y mae pob un ohonom yn ei rannu i fuddsoddi mewn etifeddiaeth gynaliadwy ar gyfer Sir Gâr.”

Mae amryw o amcanion allweddol gan Adeiladu Sir Gâr Gyda'n Gilydd. Trwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn ymdrechu i wneud y canlynol:-

  • Datblygu sgiliau unigolyn a'u gwneud yn fwy cyflogadwy
  • Rhoi cyfleoedd i bawb - chwalu rhwystrau cymdeithasol a chyrraedd y rhai 'anodd eu cyrraedd'
  • Datblygu a rhannu syniadau ac adnoddau
  • Creu etifeddiaeth i'r dyfodol
  • Canfod a datblygu llwybrau newydd tuag at swyddi
  • Cefnogi partneriaid mewn diwydiant lleol i dyfu a rhoi cyfleoedd i weithlu'r genhedlaeth nesaf
  • Grymuso, adeiladu ac adfywio cymunedau

Adeiladu Sir Gar Gyda'n Gilydd

© Copyright 2011