Adeiladu eich Dyfodol eich Hun yn Sir Gâr

Lluniwyd y cwrs Adeiladu eich Dyfodol eich Hun yn Sir Gâr yn 2010 i gyd-fynd â rhaglen uchelgeisiol gwerth £203miliwn Cyngor Sir Caerfyrddin sef Safon Tai Sir Gaerfyrddin, pan sylweddolwyd bod cyfle i ddatblygu cysylltiadau a hyfforddiant gyda'r diwydiant adeiladu lleol a darparwyr hyfforddiant.

Mae'r cwrs yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Cymunedau'n Gyntaf, Coleg Sir Gâr, a'r Carmarthenshire Construction Training Association Ltd, a'i nod yw hyrwyddo adeiladu fel gyrfa, ac annog pobl sy'n economaidd anweithgar i ystyried addysg bellach, hyfforddiant neu ddychwelyd i fyd gwaith.

Mae Adeiladu eich Dyfodol eich Hun yn Sir Gâr yn gwrs chwe wythnos - sy'n cael ei gyflwyno'n gyfan gwbl yn y gymuned. Mae'n cynnig cyngor a phrofiad ymarferol o amrywiol grefftau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed, plastro, gwaith plymwr a gosod teils. Hefyd mae'n cynnwys ymweld â safle adeiladu lleol er mwyn gweld enghraifft ysbrydoledig o grefftwyr 'go iawn' wrth eu gwaith, yn ogystal â chael cyflwyniad i amrywiol gyrsiau adeiladu mewn coleg lle gall y rhai sy'n cymryd rhan symud ymlaen ymhellach os dymunant.

Fel rhan o'r cwrs, mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael cyfle hefyd i wneud rhywbeth i'w gadw gartref yn ogystal â rhywbeth y gallant ei gyfrannu i'r gymuned fel grŵp - er enghraifft, bwrdd picnic neu feinciau sy'n cael eu rhoi i ysgol leol, grŵp teulu neu barc. Lluniwyd y rhaglen i annog pobl i feithrin gallu ar gyfer eu dyfodol nhw'u hunain - adeiladu hyder, hunan-barch, brwdfrydedd a grymuster, gan gynyddu eu gallu i ymwneud ag eraill yn y gymuned yn ogystal ag anelu at fod yn rhan o amgylchedd economaidd y gymuned.

Mae'r cwrs yn cael ei ariannu gan Gronfa Ardaloedd Difreintiedig Bae Abertawe ac yn cael ei gynnal yn wreiddiol yn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf. Ers hynny mae amryw o ddarparwyr eraill wedi 'prynu mewn' i'r cyrsiau, gan gynnwys gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau prawf, darparwyr gofal cymdeithasol a thai cymdeithasol.

Adeiladu Sir Gar Gyda'n Gilydd

© Copyright 2011