Rhannu Prentisiaid

Mae'r Cynllun Rhannu Prentisiaethau yn darparu llwybr cadarn i swyddi yn y diwydiant adeiladu ac yn cefnogi mwy na 40 o gontractwyr lleol i ariannu cost lleoliadau gwaith hanfodol.

Dan arweiniad Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL), mae'r cynllun yn dechrau ar ei bumed flwyddyn ac yn cyflogi mwy na 50 o brentisiaid mewn crefftau sy'n cynnwys gosod brics, gwaith coed, plastro, gwaith plymwr a gwaith trydanol. Mae'n rhoi hyfforddiant i brentisiaid hyd at NVQ Lefel 3, ac mae'r gyfradd lwyddo'n 98 y cant o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol sy'n llai na 50 y cant.

Mae'r cynllun Rhannu Prentisiaethau yn wahanol i'r prentisiaethau traddodiadol, lle mae prentisiaid yn cael eu cyflogi fel arfer gan y contractwr ac yn gweithio iddynt hwy'n unig. Mae'r bobl sy'n cael eu derbyn ar y Cynllun Rhannu Prentisiaethau yn cael eu cyflogi a'u talu gan CCTAL, ac yn elwa o gael amryw o leoliadau diwydiant gydag amrywiaeth o gyflogwyr fel eu bod yn cael cyfle i weithio i fwy nag un cwmni.

Trwy wneud hyn mae'r cynllun wedi llwyddo i oresgyn anawsterau oedd yn effeithio ar lwyddiant prentisiaethau yn y gorffennol, yn enwedig gan nad yw'r adnoddau gan rai cyflogwyr efallai i gymryd prentisiaid yn llawn-amser, ac yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

Mae prentisiaid yn elwa oherwydd eu bod yn cael sicrwydd swydd a hyfforddiant. Hefyd maent yn cael mwy o brofiad a chyfleoedd dysgu sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu hasesiadau NVQ, tra byddant ar yr un pryd yn gwneud cysylltiadau allweddol gydag amryw o gwmnïau lleol.

Mae dull cydweithredol cryf y Cynllun Rhannu Prentisiaethau wedi arwain ato'n ennill Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol y DU yn 2010.

Adeiladu Sir Gar Gyda'n Gilydd

© Copyright 2011