Mae Cytundeb Fframwaith Contractwyr Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu mantell ac o dan hon mae llawer o brosiectau'r bartneriaeth yn cyd-dynnu. Hwn i bob pwrpas sy'n bwydo'r cwbl - gan ddarparu'r buddsoddiad a'r cyfle i'r prosiectau ddatblygu a thyfu.
Cafodd y Cytundeb Fframwaith pedair blynedd cyntaf ei sefydlu yn 2007 i hwyluso buddsoddiad adeiladu gwerth £160miliwn yn Sir Gâr, gan gynnwys adnewyddu'r stoc dai ac adeiladu ac adnewyddu ysgolion, canolfannau hamdden a theatrau.
Mae'r Fframwaith wedi dwyn ynghyd bron 20 o gontractwyr, ac amryw o sefydliadau sy'n cyflenwi nwyddau. Hefyd mae'n cynnwys rhanddalwyr, megis CCTAL, Coleg Sir Gâr a Chymunedau'n Gyntaf, yn ogystal â bod yn ffynhonnell gwybodaeth ac arbenigedd i sefydliadau partner gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth iechyd. Mae natur gydweithredol y Fframwaith wedi galluogi pob un o'r cwmnïau, sefydliadau a rhanddalwyr hyn i gydweithio, gyda’r Cyngor yn borth canolog i'r cwbl.
Mae'r buddsoddiad, a natur y Fframwaith, wedi rhoi llwyfan cadarn i gontractwyr lleol ddatblygu a diogelu swyddi mewn cyfnod o ddirwasgiad economaidd. Yn wir, mae amryw o gontractwyr wedi tyfu o fod yn fusnesau bach i fod yn rhai canolig fel canlyniad i fod yn rhan o'r Fframwaith. Hefyd mae wedi golygu y gellir datblygu gweithlu medrus yn lleol yn ogystal â rheoli'r gadwyn gyflenwi mewn modd mwy cyson.
Elfen gref o'r Fframwaith ers y dechrau yw darparu manteision ychwanegol i'r gymuned, ac mae hyn wedi parhau'n gryf ym mhopeth - nid yn unig yn y prosiectau sy'n cael eu harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid, ond hefyd yn y prosiectau llai sy'n cael eu harwain gan gontractwyr y Fframwaith.
Mae'r Fframwaith wedi llwyddo i'r fath raddau nes bod y Cyngor wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Adeiladu Cymru am Integreiddio a Chydweithio yn 2011.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol brosiectau, a sut maent wedi bod o fudd i gymunedau, ar y wefan hon.