Cadetiaethau

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin o'r gred mai nhw yw'r awdurdod cyntaf yn y DU i ddarparu cynllun hyfforddiant ac addysg sydd wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer dysgwyr a chrefftwyr lefel uwch.

Mae Adeiladu Cadetiaethau yn rhoi cyfle unigryw i bobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant adeiladu ac sy'n dymuno dilyn gyrfa fel rheolwyr.

Cafodd cadetiaethau eu datblygu gyntaf yn Awstralia a Chyngor Sir Caerfyrddin ddaeth â nhw i'r DU yn 2009. Bellach mae'r cynllun yn cael ei redeg gyda phartneriaid Adeiladu Sir Gâr Gyda'n Gilydd.

Mae chwech o bobl wedi cael eu recriwtio ar y cynllun erbyn hyn, i astudio ar gyfer gradd sylfaen ar yr un pryd â chael lleoliadau mewn diwydiant yn y sector preifat yn lleol. Bellach penodwyd dau Gadet yn Arolygwyr Adeiladu gyda'r awdurdod lleol.

Adeiladu Sir Gar Gyda'n Gilydd

© Copyright 2011