Y Camau Nesaf

Prosiect blaengar ar sail cystadleuaeth yw Camau Nesaf sy'n rhoi cyfle i bobl dros 16 oed ac sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin gael prentisiaeth adeiladu dwy flynedd.

Cafodd ei lansio gan bartneriaid Adeiladu Sir Gâr Gyda'n Gilydd yn 2010, ac mae eisoes wedi arwain at ddau o bobl yn cael swyddi fel prentisiaid gyda chontractwyr Fframwaith, Lloyd and Gravell Ltd.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei rhedeg bob blwyddyn trwy gydol misoedd yr haf, ac mae'n rhoi cyfle i chwech o ymgeiswyr a roddwyd ar restr fer i weithio ar safle er mwyn dysgu sgiliau sylfaenol mewn crefftau gan gynnwys gwaith coed, plastro a gosod brics. Mae'r rhai a ddaeth yn ail orau ond a wnaeth argraff yn ystod y gystadleuaeth yn cael cynnig lleoedd ar y cynllun Llwybrau i Brentisiaeth, Rhannu Prentisiaeth neu gynlluniau prentisiaeth draddodiadol.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i weld lluniau a fideos o'r broses gystadlu a gafwyd llynedd, ewch i www.nextstepscarmarthenshire.gov.uk

Adeiladu Sir Gar Gyda'n Gilydd

© Copyright 2011